Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar sut y gall gweithwyr rhyngwladol ymgyfarwyddo â'u cymunedau a'u hamgylchedd gwaith newydd.
Mae'r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth eang a dolenni defnyddiol i helpu gweithwyr rhyngwladol ym maes gofal cymdeithasol i ddod i arfer â'u gwlad, eu cymunedau a'u hamgylchedd gwaith newydd.
Mae'r canllaw yn cynnwys gwybodaeth am:
- Eich cymuned
- Deall diwylliant a chymdeithas Cymru
- Iaith
- Cyfryngau Cymdeithasol
- Gofynion cofrestru yn y Deyrnas Unedig
- Trethi a Chyfleustodau
- Gyrru yng Nghymru
- Grwpiau, sefydliadau a chymorth ar-lein
- Addysg
- Iechyd
- Lles ac Iechyd Meddwl
- Tai
- Arian
- Gwaith
- Cyfraith Mewnfudo
- Caethwasiaeth fodern a chamfanteisio (cam-drin)
Mae'r adran fisâu yn canolbwyntio ar y rhai sydd â fisâu noddedig (e.e. Fisa Gweithwyr Iechyd a Gofal/HCWV), sef y fisa y mae'r rhan fwyaf o weithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol, meddygon, a phroffesiynau tebyg yn ei defnyddio i ddod i'r DU.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Cefnogi gweithwyr rhyngwladol mewn gofal cymdeithasol i ymgartrefu yng Nghymru | LLYW. CYMRU
Mae'r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi canllawiau ar sut i ddefnyddio eFisa ar gyfer Bancio. Mae eFisa yn gofnod ar-lein o statws mewnfudo unigolyn ac amodau eu caniatâd yn y DU. Gall pobl weld eu eFisa trwy fewngofnodi i'r gwasanaeth ‘View and Prove’ gan ddefnyddio eu cyfrif Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI).