BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ceisiadau ar agor nawr ar gyfer Rising Stars 4.0

Mae’r gystadleuaeth ar gyfer cwmnïau technoleg arloesol cymharol newydd wedi’i chynllunio i arddangos y gorau sydd gan wledydd Prydain i’w gynnig, gan ddarparu llwyfan i fusnesau o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ddisgleirio.

Mae’r sawl sy’n cyflwyno cynnig yn cael eu cefnogi drwy’r broses o wneud cais, ac yn cael hyfforddiant a chefnogaeth ym mhob cam o’r gystadleuaeth. Bydd hyn yn eich galluogi i gystadlu a sicrhau bod eich busnes yn barod am fuddsoddiad a’ch bod yn gwerthu’ch hun yn berffaith gerbron buddsoddwyr, dylanwadwyr a chorfforaethau blaenllaw.

Bydd dwy sesiwn holi ac ateb byw lle gallwch weld beth sydd ei angen a’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl fel rhan o’r broses. Bydd gennych hefyd y cyfle i ofyn unrhyw gwestiwn penodol sydd gennych chi:

•    14 Medi, 11am-12pm - cofrestru
•    29 Medi, 11am-12pm - cofrestru

Bydd ceisiadau yn cau ar 29 Hydref 2021. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais ewch i Rising Stars - UK pitch competition for early-stage tech startups - Tech Nation


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.