BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

ChatGPT yn dysgu Cymraeg

Text - ChatGPT with a robot pointing at the text

Partneriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru ac OpenAI i wella ChatGPT yn Gymraeg.

Fel rhan o’r ymdrech i gynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth ddata newydd gydag OpenAI i wella sut mae technoleg AI yn gweithio yn Gymraeg.

Yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, Jeremy Miles, yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y Gymraeg, gyda thechnoleg yn llinyn arian yn rhedeg ar draws bob un.

Mae ei flaenoriaethau’n cynnwys:

  • cyhoeddi Bil Addysg Gymraeg yn ystod yr wythnosau nesaf a fydd yn galluogi pob disgybl ysgol yng Nghymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus;
  • cefnogi datblygiad economaidd mewn cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg i sicrhau bod yr iaith yn ffynnu ochr yn ochr â thwf economaidd;
  • creu cyfleoedd i siarad a mwynhau yn y Gymraeg drwy gynyddu trosglwyddiad iaith yn y cartref ac o fewn cymunedau.

Bydd y bartneriaeth yn creu archifau data agored i gyfrannu data i'r gymuned ymchwil, er mwyn gwella perfformiad ieithyddol modelau a chydrannau AI.

Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg yn 2018, mae wedi ariannu, creu a gweithio ar nifer o’r elfennau digidol angenrheidiol i’r iaith.

Gall pobl gyflwyno gwybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru: Technoleg a’r Gymraeg: alwad am wybodaeth | LLYW.CYMRU. Yn ogystal â hyn, bydd y llywodraeth hefyd yn siarad â phobl ledled Cymru a thu hwnt, i gael eu mewnbwn i waith ar gyfer technoleg iaith Gymraeg yn y dyfodol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.