Bydd digwyddiadau chwaraeon yn cael eu chwarae y ti ôl i ddrysau caeedig o Ddydd San Steffan ymlaen yng Nghymru i helpu i reoli lledaeniad yr amrywiolyn omicron newydd.
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y mesurau newydd ar gyfer digwyddiadau chwaraeon dan do ac awyr agored wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos cynnydd sydyn pellach yn nifer yr achosion a gadarnhawyd o’r amrywiolyn sy’n symud yn gyflym.
Cadarnhaodd hefyd y bydd Cronfa Chwaraeon Gwylwyr gwerth £3m ar gael i gefnogi clybiau a lleoliadau chwaraeon y mae'r mesurau newydd yn effeithio arnynt i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Bydd mwy o fanylion am y gronfa ar gael yn dilyn trafodaethau gyda'r sector.
Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru