BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Chwarae Teg LeadHerShip Live: ‘Merched yn arwain Trafnidiaeth’

Mae #LeadHerShip yn dychwelyd yn rhithwir ym mis Mai eleni, gyda 3 menyw ysbrydoledig sy’n arwain y ffordd yn y sector Trafnidiaeth gan gynnwys:

  • Loraine Martin OBE, Cyfarwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiant, Network Rail
  • Christine Boston, Cyfarwyddwr, Sustrans Cymru
  • Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr, Traveline Cymru

Mae’r rhaglen LeadHerShip yn rhoi cyfle i fenywod gael cipolwg ar ddiwrnod arferol yn y swydd, sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud a sut y llwyddodd menywod mewn uwch swyddi yng Nghymru i gyrraedd eu gyrfaoedd.

Bydd y digwyddiad ar-lein hwn yn cael ei gynnal ar 19 Mai 2021 rhwng 5pm a 6.30pm a bydd yn cynnwys sgyrsiau gyrfaoedd, trafodaethau panel ar arweinyddiaeth a chydraddoldeb rhywedd yn y sector, ynghyd â chwestiynau gan y gynulleidfa.

Am fwy o wybodaeth: chwaraeteg.com/digwyddiadau/leadhership-live-merched-yn-arwain-trafnidiaeth/


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.