Y Ddeddf Rhentu Cartrefi yw'r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau.
O 15 Gorffennaf 2022, bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn newid y ffordd y mae pob landlord yng Nghymru yn rhentu eu heiddo. Bydd yn gwella'r ffordd yr ydym yn rhentu, rheoli a byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru.
Ar bwy y bydd y gyfraith newydd yn effeithio?
Tenant cymdeithasol a phreifat, bob landlord cymdeithasol a phreifat, gan gynnwys y rhai sy'n rhentu eu heiddo drwy gwmnïau rheoli neu asiantau.
P'un a ydych yn landlord neu'n denant, mae'n bwysig eich bod yn gwybod beth fydd y newidiadau hyn yn ei olygu i chi.
Dysgwch fwy nawr am sut y bydd y gyfraith newydd yn effeithio arnoch chi:
Am ragor o wybodaeth, ewch i Mae cyfraith tai yn newid | LLYW.CYMRU