BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Chwe nod allweddol i fynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Camdriniaeth Ddomestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru

Heddiw (24 Mai 2022), cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru, sef Strategaeth Genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae’r strategaeth yn tynnu sylw at y chwe nod y bydd y llywodraeth yn eu pennu i helpu i atal y gamdriniaeth ffiaidd sy’n wynebu menywod.

Mae’r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol newydd yn amlinellu chwe nod allweddol y bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â phartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn ymrwymo iddynt.

  1. Herio agweddau ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy wella ymwybyddiaeth o’i effaith a’i ganlyniadau.
  2. Cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach.
  3. Dwyn i gyfrif y rheini sy’n cyflawni camdriniaeth a helpu pobl sy’n ymddwyn yn dreisgar i newid eu hymddygiad.
  4. Rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal.
  5. Hyfforddi gweithwyr proffesiynol fel eu bod yn gallu rhoi cefnogaeth effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.
  6. Rhoi mynediad cyfartal i ddioddefwyr at wasanaethau cymorth o ansawdd uchel, gyda’r adnoddau priodol, ym mha bynnag ran o Gymru y maent yn byw.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Chwe nod allweddol i fynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Camdriniaeth Ddomestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru | LLYW.CYMRU

Beth all cyflogwr ei wneud?

Codi ymwybyddiaeth

Rhowch wybodaeth i'ch gweithwyr sy'n eu gwneud yn ymwybodol bod VAWDASV yn digwydd i lawer o wahanol bobl a bod gan bawb rôl i’w gyflawni wrth greu cymunedau sy'n gweithio tuag at ei atal rhag digwydd yn y lle cyntaf yn ogystal â chefnogi pawb sy’n cael ei effeithio ganddo. 

Ewch i Cefnogi gweithwyr sydd mewn perygl o gam-drin domestig | Drupal (gov.wales)  ac ewch i gwefan Llywodraeth Cymru am wybodaeth am linell gymorth Byw Heb Ofn a'r gwasanaethau cymorth


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.