BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Chwefror 2024: Cyfleoedd cyllido newydd gan Innovate UK

light bulb - Innovation

Mae gan Innovate UK amrywiaeth o gyfleoedd cyllido sydd ar agor i fusnesau Cymru er mwyn iddynt arloesi a buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi.

Gall Tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael at y cyllid hwn a chefnogi eich busnes ymhellach: CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein (business-events.org.uk)

Grantiau clyfar 2024

Gall sefydliadau sydd wedi cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £25 miliwn ar gyfer arloesiadau ymchwil a datblygu blaengar a hyfyw yn fasnachol a all gael effaith arwyddocaol ar economi’r DU. Dysgwch ragor a gwneud cais: Smart grants: Jan 2024 – UKRI

Cronfa Effaith Diwydiant

Gall sefydliadau sydd wedi cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £100,000 i helpu goresgyn perfformiad anodd cynnyrch, gweithgynhyrchu neu broses trwy fanteisio ar gyfleusterau ac arbenigedd gwyddonol STFC. Dysgwch ragor a gwneud cais: Industry Impact Fund – UKRI

CLIMATES: arloesiadau’r gadwyn gyflenwi ar gyfer prinfwynau, ffrwd 1

Gall sefydliadau sydd wedi cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £4 miliwn ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol. Dysgwch ragor a gwneud cais: CLIMATES: supply chain innovations for rare earths, strand one – UKRI

Cronfa Grant Asedau Gwybodaeth: estyniad, gwanwyn 2024

Gall sefydliadau sector cyhoeddus cymwys yn y DU wneud cais am hyd at £250,000 i’w helpu i fanteisio ar asedau anghyffwrddadwy sydd â chymwysiadau neu garfan gleientiaid ehangach na’r sefydliad sydd berchen arnynt. Dysgwch ragor a gwneud cais: Knowledge Asset Grant Fund: extend, spring 2024 – UKRI

Benthyciadau arloesi economi’r dyfodol: cylch 13

Gall busnesau sydd wedi cofrestru yn y DU wneud cais am fenthyciadau ar gyfer prosiectau arloesol sydd â photensial masnachol cryf er mwyn gwella economi’r DU yn sylweddol. Dysgwch ragor a gwneud cais: Innovate UK innovation loans future economy: round 13 – UKRI

Ymchwil a datblygu cydweithredol dwyffordd y DU a’r Almaen: cylch 3

Gall sefydliadau sydd wedi cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £4 miliwn ar gyfer prosiectau cydweithredol sy’n arwain at atebion arloesol mewn technolegau sy’n dod i’r amlwg. Dysgwch ragor a gwneud cais: UK-Germany bilateral collaborative research and development: round 3 – UKRI

Ymchwil a datblygu cydweithredol y DU a’r Swistir: cylch 2

Gall sefydliadau sydd wedi cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £4 miliwn ar gyfer prosiectau cydweithredol sy’n arwain at atebion arloesol mewn technolegau sy’n dod i’r amlwg. Dysgwch ragor a gwneud cais: UK-Switzerland collaborative research and development: round two – UKRI


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.