BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Chwilio am Ddinas Diwylliant nesaf y DU 2025

Bydd y gystadleuaeth, a gynhelir gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), mewn cydweithrediad â’r gweinyddiaethau datganoledig, yn defnyddio diwylliant fel catalydd ar gyfer codi ardaloedd y tu allan i Lundain i lefel uwch a rhoi diwylliant wrth galon cynlluniau adfer ar ôl effeithiau’r pandemig. 

Mae’r gystadleuaeth ar agor nawr ac anogir ceisiadau gan drefi a dinasoedd o bob cwr o’r DU. 

Am y tro cyntaf, bydd grwpiau o drefi yn gallu dod at ei gilydd i wneud cais i’r teitl gael ei roi i’w hardal leol – gan roi mwy o gyfle i fwy o ardaloedd gwahanol fanteisio.

Bydd angen i drefi a dinasoedd gyfleu gweledigaeth gref ac unigryw ar gyfer eu twf yn y dyfodol, gan ddathlu treftadaeth leol a defnyddio diwylliant i ddwyn cymunedau ynghyd, datblygu naws am le ac ysbrydoli balchder lleol. Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos hefyd sut bydd buddsoddi mewn diwylliant a chreadigrwydd yn hybu twf, gwneud diwylliant yn fwy hygyrch, datblygu partneriaethau a dathlu cysylltiadau gyda lleoedd eraill ledled y DU.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.