Mae Clybiau Plant Cymru wedi bod yn cefnogi’r sector gofal plant gydol cyfyngiadau symud Covid-19 gyda chymorth busnes penodol i’r sector, gan gynnwys cynllunio brys a chyllid.
Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd lleoliadau gofal plant yn gallu cynyddu nifer y plant y maent yn gofalu amdanynt, maent bellach yn cefnogi lleoliadau gofal plant gyda’u cynlluniau i ailagor, gan gynnwys y canlynol:
- Gweminarau rhwydwaith - 8 gweminar rhwydwaith am ddim i’w cyflwyno ym mis Awst i gefnogi’r Sector Gofal Plant. Byddant yn cael eu cynnal dros gyfres o foreau, prynhawniau a nosweithiau ar y pynciau canlynol, paratoi i ailagor eich lleoliad gofal plant ar ôl Covid-19 a gwaith chwarae ar ôl Covid-19
- Adnoddau a chanllawiau - mae Clybiau Plant Cymru hefyd wedi datblygu ystod o adnoddau a chanllawiau i gefnogi ein Clybiau Gofal Plant Allan o’r Ysgol yn ystod yr argyfwng Covid-19, gan gynnwys canllawiau a thempledi ailagor a chynllunio ariannol ac adnoddau cyllid
- Hyfforddiant - mae’r tîm hyfforddi wedi datblygu dulliau darpariaeth ar-lein ar gyfer cymwysterau a hyfforddiant DPP ar ôl y cyfyngiadau symud. Ar hyn o bryd, mae’n darparu prentisiaethau gwaith ar Lefel 2, 3 a 5 ac yn gallu cynnig darpariaeth ar-lein o Wobr Lefel 3 CACHE mewn Pontio i Waith Chwarae (o’r blynyddoedd cynnar) a hyfforddiant diogelu ar-lein.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Clybiau Plant Cymru.