Ydych chi’n ymwneud ag addysgu neu reoli ein harfordiroedd a’n moroedd, codi ymwybyddiaeth gyda chymunedau neu gynghorau neu waith cysylltiedig?
Ydych chi eisiau helpu i ddatblygu cynllun gweithredu i adeiladu llythrennedd cefnforol yng Nghymru?
Llythrennedd morol yw pan fydd pobl yn deall sut mae ein gweithredoedd cyfunol ac unigol yn effeithio ar iechyd y cefnforoedd a sut mae iechyd y cefnforoedd yn effeithio ar ein bywydau. Gallai gwell llythrennedd cefnforol arwain at welliannau yn y modd yr ydym yn rheoli ac yn defnyddio ein harfordir a’n môr er budd bywyd gwyllt a phobl.
CNC ar ran Grŵp Gweithredu a Chynghori Morol Cymru yn cynnal 2 weithdy byr ar-lein 1pm i 3pm ar 13eg a 16eg Mehefin 2022.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Clywch eich llais: chi a'ch cefnfor yng Nghymru | LLYW.CYMRU