BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

CNC i sefydlu cynllun codi tâl rheoleiddiol amgylcheddol newydd

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, wedi cymeradwyo heddiw (23 Mehefin 2023) y taliadau rheoleiddio y mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnig eu codi yn 2023-2024 a’r trefniadau y mae angen i CNC eu gwneud i godi’r taliadau hyn o 1 Gorffennaf 2023 yn y meysydd canlynol: 

  • Rheoleiddio diwydiant
  • Gwastraff safleoedd
  • Ansawdd dŵr
  • Adnoddau dŵr
  • Rheoleiddio cronfeydd dŵr
  • Cyflwyno taliadau ar gyfer trwyddedu rhywogaethau

Mae’r taliadau a godir gan CNC yn cael eu pennu fel eu bod yn ad-dalu’r costau y mae CNC yn eu hysgwyddo am ei waith cydsynio a rheoleiddio, mewn ffordd deg a phriodol.

Ar sail ei Raglen Strategol ar gyfer Adolygu’r Taliadau a Godir (SRoC), bwriad CNC yw sicrhau ei fod yn cael y costau am reoleiddio a sicrhau’r canlyniadau sydd eu hangen ar amgylchedd Cymru a’r adferiad gwyrdd yn ôl oddi wrth y rheini y mae’n eu rheoleiddio, hynny heb ddefnyddio’u Cymorth Grant (GiA) na’r tâl a godir ar eraill i sybsideiddio’r costau hynny.

Am wybodaeth bellach, dilynwch y ddolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Cymeradwyo Adolygiad Strategol Cyfoeth Naturiol Cymru o’r Taliadau a Godir (SRoC) ar gyfer 2023-24 (23 Mehefin 2023) | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.