BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cod Cyllid i Gefnogi Entrepreneuriaid Anabl

Disabled entrepreneur using a laptop

Mae llywodraeth y DU wedi lansio cod newydd i chwalu rhwystrau a chynyddu mynediad at gyllid i fusnesau sy’n cael eu harwain gan bobl anabl. O dan y Cod Cyllid Anabledd ar gyfer Entrepreneuriaeth, bydd banciau'n cynnig cymorth hygyrch ac ymarferol i sylfaenwyr anabl, megis mentora, digwyddiadau rhwydweithio, addysg parodrwydd am gyllid a chynllunio busnes.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Disability Finance Code 

Mae’r Canllaw Arferion Da – Cefnogi Entrepreneuriaid Anabl yng Nghymru, a ddatblygwyd gan Anabledd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn darparu cyngor ymarferol i sefydliadau a chynghorwyr cymorth busnes ar y ffordd orau o gefnogi ac ymgysylltu â phobl anabl sy'n dechrau, cynnal neu dyfu eu busnes yng Nghymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.