Newyddion

Cod ymarfer: cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi

supply chain

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu cod ymarfer - Cyflogaeth Foesegol mewn cadwyni cyflenwi.

Cafodd y Cod Ymarfer hwn ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi mwy moesegol ar gyfer cyflawni contractau sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru sy’n derbyn arian cyhoeddus.

Mae yna dystiolaeth sy’n dangos bod arferion cyflogaeth anfoesegol yn cael eu dilyn mewn cadwyni cyflenwi ledled Cymru a thu hwnt.

Mae’r Cod hwn wedi cael ei gynllunio i sicrhau bod gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus yn cael eu cyflogi mewn ffordd foesegol, gan gydymffurfio ag ysbryd a llythyren y ddeddf yng nghyfreithiau’r DU, yr UE ac yn rhyngwladol.

Mae’r Cod yn ymdrin â’r materion cyflogaeth a ganlyn:

  • Caethwasiaeth Fodern a thorri hawliau dynol
  • Cosbrestru
  • Hunangyflogaeth ffug
  • Defnydd annheg o gynlluniau mantell a chontractau dim oriau
  • Talu’r Cyflog Byw

Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r materion hyn i’w gweld yn y Pecyn Cymorth sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymarfer.

Wrth ymrwymo i’r Cod, bydd sefydliadau yn cytuno i gydymffurfio â 12 ymrwymiad sydd wedi’u cynllunio i ddileu caethwasiaeth fodern a hybu cyflogaeth foesegol.

Mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i holl sefydliadau’r sector cyhoeddus, busnesau a sefydliadau’r trydydd sector sy’n cael cyllid cyhoeddus ymrwymo i’r Cod Ymarfer hwn. Anogir cyrff eraill sy’n gweithredu yng Nghymru, mewn unrhyw sector, i ddilyn y Cod.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.