Bydd Cod Ymarfer drafft ar lywodraethu diogelwch seiber yn helpu cyfarwyddwyr ac uwch arweinwyr i gryfhau eu hamddiffynfeydd rhag bygythiadau seiber, wrth i Lywodraeth y DU lansio galwad newydd am safbwyntiau gan arweinwyr busnes.
Nod y mesurau, sydd wedi’u hanelu at gyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol ac uwch arweinwyr eraill, yw sefydlu bod materion seiber ddiogelwch yn ffocws allweddol i fusnesau, gan roi’r un statws iddynt â bygythiadau fel maglau ariannol a chyfreithiol. Fel rhan o hyn, mae’r Cod yn argymell bod cyfarwyddwyr yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau clir ar draws eu sefydliadau, gan hybu amddiffyniadau i gwsmeriaid a diogelu eu gallu i weithredu’n ddiogel.
Mae Llywodraeth y DU yn ceisio barn am y Cod drafft ac yn gwahodd ymatebion erbyn 11:59pm ddydd Mawrth 19 Mawrth 2024.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cyber Governance Code of Practice: call for views - GOV.UK
I gynorthwyo sefydliadau ymhellach i wella’u diogelwch seiber a rhoi mwy o eglurder am arfer orau, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei response to a call for views on software resilience and security, i helpu mynd i’r afael â risgiau i feddalwedd a chryfhau sefydliadau yn wyneb bygythiadau seiber.