Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cyhoeddi cod ymarfer newydd ar rannu data, sy’n darparu canllawiau clir i sefydliadau a busnesau ar sut i rannu data yn gyfreithlon.
Mae gan yr ICO adnoddau a chymorth i fusnesau hefyd, sy’n cynnwys:
- chwalu coelion am rannu data
- gwybodaeth sylfaenol y cod rhannu data
- cwestiynau cyffredin ar rannu data
- astudiaethau achos
- rhestr wirio rhannu data
- templedi ffurflen gwneud cais i rannu data a ffurflen penderfyniadau
- rhannu data personol gyda phecyn cymorth gan awdurdod gorfodi’r gyfraith
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr ICO.