BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cod Ymarfer Newydd gan y BSI – Cynlluniau pontio sero net ar gyfer busnesau bach a chanolig

person using a laptop with digital net zero symbols

Mae'r Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) wedi cyhoeddi safon newydd BSI Flex 3030 v2.0:2024-12. Mae'n safon y cytunwyd arni’n genedlaethol sy'n rhoi cyngor a gwybodaeth am ddim o ansawdd uchel ar sut i ddechrau symud i sero net.

Mae'r Flex hwn ar gyfer pob sefydliad, waeth beth fo'u maint, eu math neu eu sector, ond disgwylir iddo fod yn arbennig o ddefnyddiol i:

  • BBaChau (fel arfer sefydliadau â 5 - 250 o weithwyr), gan gynnwys y rhai na fu’n ofynnol iddynt ystyried newid yn yr hinsawdd o'r blaen
  • Sefydliadau sydd â BBaChau yn eu cadwyn werth, i ysgogi cyflenwyr a chwsmeriaid
  • Llywodraethau cenedlaethol neu ranbarthol
  • Awdurdodau lleol
  • Cymdeithasau Masnach
  • Sefydliadau Anllywodraethol
  • Banciau a benthycwyr eraill a buddsoddwyr posibl
  • Gweithredwyr mentrau eraill sydd â’r nod o frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac annog pontio cynaliadwy i sero net

Mae'r Flex yn fframwaith clir ar gyfer gweithredu er mwyn helpu'ch sefydliad gyda:

  • gosod targedau ac olrhain cynnydd
  • gwell hygrededd a thryloywder
  • mantais gystadleuol
  • effeithlonrwydd cost ac optimeiddio adnoddau
  • cydnawsedd â chynlluniau eraill
  • cefnogaeth gan y ganolfan
  • diogelu at y dyfodol a chreu cyfleoedd

I gael rhagor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r copi am ddim o'r safon dewiswch y ddolen ganlynol: BSI Flex 3030 v2.0:2024-12 | 31 Dec 2024 | BSI Knowledge

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei chael ar y bobl a’r llefydd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel. Trwy lofnodi'r Addewid Twf Gwyrdd, byddwch yn cael mynediad at becyn cymorth marchnata unigryw sydd wedi'i gynllunio'n benodol i roi gwybodaeth ymarferol, canllawiau a logos i helpu'ch busnes i hyrwyddo'r camau rydych chi wedi'u cymryd i ddatgarboneiddio a dod yn fwy cynaliadwy: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.