BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Coed yr Ŵyl 2023

 hands planting seedlings or trees in the soil

Coed yr Ŵyl yw ymgyrch codi arian blynyddol Maint Cymru i gefnogi prosiectau coedwig partner draws y byd.

Mae coed yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau pawb. Maen nhw’n amsugno carbon, yn cynnal bywyd gwyllt, yn darparu bwyd, ac yn atal tirlithriadau. Mae ganddynt arwyddocâd diwylliannol ehangach ar draws y byd hefyd, yn enwedig ym mis Rhagfyr, pan fydd llawer o bobl yn dod at ei gilydd o amgylch coeden gyda’u hanwyliaid.

Mae Coed yr Ŵyl yn ffordd wych o ymestyn cyfeillgarwch ar draws ffiniau, a dathlu coed!

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r ymgyrch wedi helpu cymunedau yn Boré, Kenya, i blannu dros 100,000 o goed a dyblu capasiti meithrinfeydd coed lleol. Mae'r ymgyrch yn annog busnesau ac unigolion ledled Cymru i gymryd rhan.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen hon Coed yr Ŵyl - Size of Wales


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.