BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cofiwch: Canllawiau Lefel Rhybudd 0 a Chardiau Gweithredu Sectorau Penodol

Beth mae'n rhaid i fusnesau, cyflogwyr, sefydliadau, trefnwyr gweithgareddau a digwyddiadau yng Nghymru ei wneud ar lefel rhybudd 0.

Mae Lefel Rhybudd 0: canllawiau i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau yn darparu'r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen i helpu busnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol i leihau'r risg y bydd pobl yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws, neu'n ei ledaenu ar eu safle.

Ar lefel rhybudd 0, mae llawer o'r gofynion cyfreithiol mewn lleoliadau twristiaeth a lletygarwch wedi'u dileu er bod cynnal asesiad risg coronafeirws yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau, ac mae'n ofynnol cymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Mae Cardiau gweithredu mesurau rhesymol yn cynnwys lletygarwch, busnesau twristiaeth gan gynnwys llety ac atyniadau, digwyddiadau a chlybiau nos a lleoliadau cerddoriaeth.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.