BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cofleidio'r Gymraeg yn y sector breifat

The Harlech Grocer

Cefnogaeth am ddim i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg a hybu'r Gymraeg yn y gweithle.

Mae Comisiynydd y Gymraeg a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn eich gwahodd i ddigwyddiad sy'n esbonio'r cymorth sydd ar gael i'ch busnes i ddatblygu eich defnydd o'r Gymraeg. Mae'r digwyddiad ar gyfer uwch-reolwyr.

  • 11 Tachwedd 2024, 2pm - 3:30pm
  • Ty Principality, Heol Ty'r Brodyr, Caerdydd CFl0 3FA
  • RSVP: erbyn 10 Hydref 2024 hybu@cyg-wlc.cymru

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i dy gynghori di ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac mae’r cwbl am ddim. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.