BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cofnodi gwybodaeth Talu Wrth Ennill mewn amser real wrth dalu yn gynnar dros y Nadolig

Mae CThEM yn gwybod bod rhai cyflogwyr yn talu eu gweithwyr yn gynt na’r arfer dros y Nadolig, er enghraifft os yw’r busnes ar gau dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Os ydych chi’n talu yn gynnar, cofnodwch eich dyddiad talu arferol ar eich Cyflwyniad Taliad Llawn (FPS).

Er enghraifft, os ydych chi’n talu ar 17 Rhagfyr 2021, ond mai’ch dyddiad talu arferol yw 31 Rhagfyr 2021, cofnodwch y dyddiad talu fel ‘31 Rhagfyr 2021’. Yn yr enghraifft hon, byddai angen anfon yr FPS ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021.

Bydd gwneud hyn yn diogelu cymhwystra eich gweithwyr i dderbyn y Credyd Cynhwysol, oherwydd gallai cofnodi taliad cynnar effeithio ar hawliadau pellach.

Am ragor o wybodaeth, gweler y Bwletin i Gyflogwyr Hydref 2021. 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.