O dan Ddeddf Pensiynau 2008, rhaid i bob cyflogwr yn y DU drefnu bod staff penodol yn rhan o gynllun pensiwn y gweithle a chyfrannu ato. Gelwir hyn yn 'gofrestru awtomatig'. Os ydych chi'n cyflogi o leiaf un person, rydych chi'n gyflogwr â dyletswyddau cyfreithiol penodol.
Mae'n bwysig eich bod yn deall beth i'w wneud ac erbyn pryd, er mwyn cyflawni eich dyletswyddau cofrestru awtomatig yn brydlon.
Mae eich dyletswyddau cyfreithiol yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf eich aelod o'r staff yn y gwaith. Hyd yn oed os ydych yn credu na fydd angen i chi gynnwys eich staff mewn cynllun pensiwn, bydd gennych ddyletswyddau o hyd.
Mae cofrestru awtomatig yn gyfrifoldeb parhaus. Bob tro y byddwch yn talu eich staff, rhaid i chi fonitro newidiadau yn eu hoedran a'u henillion i weld a oes angen eu cynnwys yn eich cynllun.
Bob tair blynedd mae'n rhaid i chi ailgofrestru er mwyn ailgyflwyno unrhyw staff sydd wedi gadael eich cynllun.
Hefyd, bydd angen i chi barhau i dalu i mewn i'ch cynllun pensiwn, rheoli ceisiadau i ymuno â neu adael y cynllun a chadw cofnodion.
Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.thepensionsregulator.gov.uk/en/employers