Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan er mwyn cynnig gostyngiad i annog pobl i fwyta yn eich bwyty.
Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan:
- drwy’r dydd, bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 3 a 31 Awst 2020
- i gynnig gostyngiad o 50%, hyd at uchafswm o £10 yr un, oddi ar fwyd neu ddiodydd di-alcohol i bobl eu mwynhau y tu mewn
- i hawlio’r arian yn ôl gan y llywodraeth
Gallwch gofrestru os:
- yw’ch sefydliad yn gwerthu bwyd i’w fwyta yn y fan a’r lle ar y safle pan gaiff ei brynu
- yw’ch sefydliad yn darparu ei ardal fwyta ei hun neu’n rhannu ardal fwyta gyda sefydliad arall ar gyfer prydau y tu mewn
- cafodd eich sefydliad ei gofrestru fel busnes bwyd gyda’r awdurdod lleol perthnasol ar neu cyn 7 Gorffennaf 2020
Ni allwch gofrestru:
- sefydliad sy’n cynnig bwyd neu ddiod tecawê yn unig
- gwasanaethau arlwyo ar gyfer digwyddiadau preifat
- gwesty sy’n rhoi gwasanaeth i’r ystafell yn unig
- gwasanaethau sy’n darparu bwyd (megis bwyd ar fordeithiau sy’n rhan o gynnig pecyn)
- faniau neu drelars bwyd symudol
Mae alcohol a thaliadau gwasanaeth wedi’u heithrio o’r cynnig.
Ni fydd modd cofrestru ar ôl 31 Awst 2020.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.