BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cofrestrwch ar gyfer gweminarau drwy ddefnyddio marc yr UKCA

Bydd y rheolau newydd ar farc yr UKCA – a fydd yn disodli marc y CE – yn dod i rym o 1 Ionawr 2023, ac mae BEIS yn cynnal cyfres o weminarau i helpu busnesau i ddeall y broses o fabwysiadu marc diogelwch yr UKCA.

Cynhelir y gweminar nesaf ar 18 Ionawr 2022 a bydd yn canolbwyntio ar fusnesau sy’n ymwneud â gweithgynhyrchu neu gyflenwi nwyddau â marc y CE/ UKCA ar farchnad Prydain Fawr. Bydd y gweminar yn egluro rolau a chyfrifoldebau busnesau sy’n ymwneud â chyflenwi nwyddau sydd angen marc yr UKCA a sut y gallai rolau fod wedi newid ers i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

I gofrestru neu ddod o hyd i wybodaeth am y rhaglen lawn o weminarau, ewch i, GOV.UK
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.