BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cofrestrwch ar gyfer Gweminarau Rhwydwaith Made Smarter Innovation

I gefnogi a chyflymu’r broses o ddigidoleiddio’r diwydiant gweithgynhyrchu, mae Innovate UK KTN yn gweithio gyda UKRI i sbarduno arloesi er mwyn cefnogi mabwysiadu technoleg ddigidol drwy Made Smarter Innovation.

Bydd gweminarau Rhwydwaith Made Smarter Inovation yn arddangos teithiau gwneuthurwyr sydd wedi bod yn arloesol yn y ffordd maen nhw wedi mabwysiadu technolegau digidol i wella perfformiad, ynghyd â darparwyr technoleg ddigidol, gan greu datrysiadau arloesol creadigol i gefnogi taith y gwneuthurwr.

Bydd y gyfres o weminarau yn arddangos gwneuthurwr sydd wedi cydweithio â darparwr technoleg, ynghyd â chwmni technoleg newydd a chefnogwr, y gall gwneuthurwyr droi atynt am help i ddatrys problemau gweithgynhyrchu.

Cynhelir yr holl weminarau ddydd Mawrth rhwng 12pm ac 1pm ac mae’r pynciau yn cynnwys:

  • Technolegau Digidol Arloesol mewn Sero Net – 8 Chwefror 2022
  • Technolegau Digidol Arloesol yn y Gadwyn Gyflenwi – 15 Chwefror 2022
  • Technolegau Digidol Arloesol mewn Gwelliannau Parhaus – 22 Chwefror 2022
  • Technolegau Digidol Arloesol wrth Ddatblygu Cynhyrchio Newydd – 1 Mawrth 2022
  • Technolegau Digidol Arloesol wrth Reoli Ansawdd – 8 Mawrth 2022
  • Technolegau Digidol Arloesol ym maes Gweithgynhyrchu Hyblyg – 15 Mawrth 2022

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y gweminarau, defnyddiwch y ddolen ganlynol: 
Crynodeb - Gweminar Rhwydwaith Made Smarter Innovation Cyfres 3 (cvent.com)
 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.