BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Consesiynau Arlwyo Eisteddfod 2023

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol, gŵyl ddiwylliannol fwya'r wlad, yn Llŷn ac Eifionydd, Boduan, Gwynedd rhwng 5 a 12 Awst 2023.

Manylion consesiynau arlwyo #Steddfod2023

Mae gan Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd y cyfleoedd canlynol ar gael trwy dendr:

  • Y Pentref Bwyd (Unedau Arlwyo Symudol)
  • Cynigion Manwerthu Eraill
  • Platiad a chynigion arlwyo eraill ar ffurf bwyty
  • Hufen Iâ
  • Arlwyo a Siop ar y Maes Carafanau
  • Maes B
  • Ffreutur Criw’r Maes

Dyddiad cau ar gyfer cynigion tendr: 12:00 ar 10 Chwefror 2023.

RHAID anfon pob cynnig a chais am wybodaeth ychwanegol at: betsan@eisteddfod.cymru / arlwyo@eisteddfod.cymru

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Consesiynau Arlwyo Eisteddfod 2023 | Eisteddfod Genedlaethol


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.