BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Contracts for Difference – cynllun cymorth ynni adnewyddadwy ar agor

Mae'r broses ymgeisio ar gyfer y rownd fwyaf erioed o gynllun cymorth ynni adnewyddadwy blaenllaw llywodraeth y DU bellach ar agor, gyda £285 miliwn ar gael bob blwyddyn er mwyn adeiladu'r genhedlaeth nesaf o brosiectau ynni gwyrdd ym Mhrydain.

Gall prosiectau ynni adnewyddadwy ledled gwledydd Prydain wneud cais am gyllid ym mhedwaredd rownd y cynllun Contracts for Difference (CfD), sy'n anelu at sicrhau 12GW o gapasiti trydan – mwy o gapasiti adnewyddadwy na'r 3 rownd flaenorol gyda'i gilydd. Gallai'r capasiti gwynt ychwanegol ar y môr sy'n deillio o'r cyllid yn unig gynhyrchu digon o drydan i bweru tua 8 miliwn o gartrefi.

O gymharu â'r rownd flaenorol, mae croeso i fwy o dechnolegau ynni adnewyddadwy wneud cais, gyda phrosiectau ynni gwynt ar y môr, ynni gwynt ar y tir, ynni solar, ynni llanw ac arnofiol ymhlith eraill - i gyd yn gymwys i wneud cais am gyllid ym mhroses arwerthiant y cynllun.

Bydd y broses ymgeisio ar gyfer rownd pedwar o gyllid Contracts for Difference yn cau ar 14 Ionawr 2022.

Rhagor o wybodaeth yn Gov.UK
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.