Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi llythyr i’r Adran Drafnidiaeth, er mwyn rhoi sicrwydd i yrwyr ac i atgoffa busnesau o’u rhwymedigaethau i ddarparu cyfleusterau toiled a golchi dwylo addas i yrwyr sy’n ymweld â’u safleoedd.
Dylai busnesau sy’n danfon neu’n derbyn nwyddau sicrhau bod gan yrwyr fynediad hawdd a diogel at doiledau a chyfleusterau golchi dwylo er mwyn cefnogi eu hiechyd a’u lles wrth iddyn nhw wneud gwaith pwysig.
Mae canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn nodi bod yn rhaid i yrwyr gael mynediad at gyfleusterau lles ar yr eiddo y maen nhw’n ymweld ag ef fel rhan o’u gwaith. Cyfrifoldeb y person sy’n rheoli’r eiddo yw darparu mynediad yn ôl y gyfraith.
Gallwch ddarllen y llythyr llawn yma.
Am ganllawiau pellach ar egwyddorion gweithio mwy diogel ac asesiadau risg ar gyfer gweithredwyr a sefydliadau trafnidiaeth, ewch i wefan GOV.UK.