BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Coronafeirws: os nad ydy eich cwmni’n gallu ffeilio cyfrifon gyda Thŷ’r Cwmnïau ar amser

Os ydy Coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar eich cwmni a’ch bod chi angen rhagor o amser i ffeilio eich cyfrifon, dylech chi weithredu cyn eich dyddiad cau ar gyfer ffeilio. 

Rhaid i bob cwmni anfon ei gyfrifon, adroddiadau a datganiadau cadarnhau i Dŷ’r Cwmnïau bob blwyddyn. Os bydd cyfrifon cwmni’n cael eu ffeilio’n hwyr, bydd y gyfraith yn gosod cosb awtomatig.

Dylai eich cwmni gymryd camau priodol i sicrhau bod cyfrifon yn cael eu ffeilio ar amser.

Os daw i’r amlwg na fydd eich cyfrifon yn gallu cael eu ffeilio cyn eich dyddiad cau oherwydd effaith Coronafeirws (COVID-19) ar eich cwmni, gallwch chi wneud cais i ymestyn y cyfnod a ganiateir ar gyfer ffeilio.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.