BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: beth i’w wneud os ydych chi’n hunangyflogedig ac yn cael llai o waith neu ddim gwaith

Os ydych chi’n cael llai o waith neu ddim gwaith oherwydd y coronafeirws efallai y gallwch chi hawlio grant drwy’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws.

Hefyd, efallai y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar ei newydd wedd os yw un o’r canlynol yn berthnasol i chi neu’ch plentyn, ar hyn o bryd neu rywbryd yn y gorffennol:

  • bod eich lefel risg yn uchel am fod gennych gyflwr iechyd isorweddol (gwarchod)
  • eich bod yn hunanynysu am fod gennych symptomau coronafeirws
  • eich bod yn hunanynysu am eich bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun gyda symptomau coronafeirws, neu eich bod wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan wasanaeth profi ac olrhain

Os hoffech ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.