Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canllawiau i gefnogi busnesau bwyd i ailagor yn ddiogel yn ystod COVID-19 ar ôl gorfod cau eu drysau am gyfnod.
Mae’r canllawiau yn cynnwys:
- rhestr wirio ar ailagor ar gyfer busnesau bwyd
- cynllunio a pharatoi ar gyfer dechrau arni
- archwiliadau safle
- archwiliadau cyfarpar
- archwiliadau cynhwysion a chynhyrchion
- mesurau cadw pellter cymdeithasol
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.