Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi cyhoeddi canllawiau i helpu busnesau sy’n symud o ddarpariaeth ffisegol i ddarpariaeth ddigidol fel rhan o’r ymateb parhaus i Covid-19. Mae’r canllawiau wedi’u llunio’n benodol i gefnogi busnesau sy’n dibynnu’n fwy nag erioed ar wasanaethau TG i gynnal eu busnes.
Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys canllawiau ar weithio o gartref, fideo-gynadledda ac adnabod sgamiau e-bost sy’n gysylltiedig â Covid-19.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.