Sut gall darparwyr gofal plant ddarparu gofal o dan gynllun cymorth gofal plant y coronafeirws newydd.
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru, sy'n darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i blant 3 a 4 oed o deuluoedd cymwys, ar gau i blant newydd ar hyn o bryd. O wneud hyn, mae modd defnyddio’r cyllid i gefnogi gweithwyr allweddol gyda’u costau gofal plant a chefnogi plant agored i niwed yn ystod pandemig y coronafeirws. Darperir y cyllid hwn drwy Gynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws.
Bydd y Cynllun hwn yn parhau tan 31 Awst 2020 a bydd yn ariannu costau gofal plant cyn-ysgol (plant rhwng 0 a 5 oed sydd heb le mewn ysgol) ar gyfer:
- plant gweithwyr allweddol
- plant agored i niwed cyn oed ysgol
Sut mae derbyn Cynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws
Gall darparwyr gofal plant gael y cyllid i ofalu am blant cyn ysgol. Rhaid eich bod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Bydd dal modd i chi gael y cyllid newydd hwn hyd yn oed os nad ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y Cynnig Gofal Plant.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.