BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: canllawiau i gyflogwyr am gyfraniadau pensiwn

Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau yn atgoffa cyflogwyr bod dyletswyddau pensiwn yn y gweithle yn berthnasol, p’un ai bod eich staff yn gweithio neu ar ffyrlo fel rhan o’r Cynllun Cadw Swyddi trwy gyfnod y Coronafeirws.

Fodd bynnag, ers ddechrau Awst, rydych wedi gorfod talu cyfraniadau pensiwn a chyfraniadau Yswiriant Gwladol eich staff sydd ar ffyrlo.

Byddwch yn dal i allu hawlio’r isaf o 80% o gyflog eich staff neu £2,500 y mis ar gyfer y staff hyn, sy’n lleihau i’r isaf o 70% neu £2,187.50 ym mis ym mis Medi, a’r isaf o 60% neu £1,875 ym mis Hydref, cyn i’r cynllun ddod i ben 31 Hydref 2020.

Mwy o fanylion ar wefan TPR.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.