Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi pob math o ganllawiau a chyngor i gyflogwyr a busnesau i’w helpu yn ystod y pandemig coronafeirws gan gynnwys y canlynol:
- asesiadau risg penodol COVID-19 i’ch helpu chi i reoli risg ac amddiffyn pobl
- cyngor ar amddiffyn gweithwyr agored i niwed yn ystod y pandemig coronafeirws
- cyngor i gyflogwyr a busnesau yn y sector gweithgynhyrchu sy’n dychwelyd i’r gwaith
Hefyd, mae dolenni i fanylion a chanllawiau defnyddiol eraill sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.