Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau ar gau busnesau ac eiddo yng Nghymru gan fod rhai o'r cyfyngiadau bellach yn cael eu lleddfu.
Mae'r canllawiau'n cynnwys:
- busnesau ac adeiladau y mae'n rhaid iddynt aros ar gau
- gwaith yn cael ei wneud yng nghartrefi pobl
- hyd y cau
- cydymffurfiaeth
- cefnogaeth ariannol
- cefnogaeth i fusnesau
Sut alla i gael cyngor ar beth alla i ei wneud a beth na alla i ei wneud?
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ategu'r rheoliadau ac mae’r rhain yn atebion i gwestiynau cyffredin. Fodd bynnag, nid ydym yn gallu ateb cwestiynau penodol gan unigolion gan y bydd yr ateb yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Mae gwasanaethau cynghori cymunedol fel Cyngor ar Bopeth ar gael ar-lein ac ar y ffôn.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan LLYW.Cymru.