Mae gan gyflogwyr rôl bwysig i sicrhau nad yw’r materion sy’n wynebu eu gweithwyr yn cael eu gwaethygu gan benderfyniadau gwahaniaethol o ran ffyrlo, tâl salwch neu ddiswyddiadau.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi llunio canllawiau ar gyfer cyflogwyr wrth i’r pandemig coronafeirws gael effaith benodol ar bobl â nodweddion gwarchodedig penodol, ac fel cyflogwr, mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnoch chi o hyd i sicrhau nad yw’r penderfyniadau rydych chi’n eu gwneud mewn ymateb i’r coronafeirws yn gwahaniaethu yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn erbyn gweithwyr â nodweddion gwarchodedig.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.