BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Cymorth pellach i fusnesau gan Lywodraeth y DU

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’r canlynol -

Bonws Cadw Swyddi

Bydd cyflogwyr yn y DU yn derbyn bonws unigol o £1,000 yr un am bob gweithiwr ar ffyrlo sy’n dal i gael eu cyflogi ar 31 Ionawr 2021.

Cynllun Kickstart

Bydd pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n hawlio’r Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn yr hirdymor yn gymwys. Bydd cyllid ar gael ar gyfer pob lleoliad swydd chwe mis ac yn talu 100% o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol am wythnos 25 awr - a bydd cyflogwyr yn gallu ychwanegu at y cyflog hwn.

Gostyngiad TAW

Gostyngiad TAW am y cyfnod 15 Gorffennaf i 12 Ionawr 2021, o 20% i 5% ar gyfer y canlynol:

  • bwyd bwyta i mewn neu decawê poeth o fwytai, caffis a thafarndai
  • llety mewn gwestai, gwely a brecwast, meysydd gwersylla a meysydd carafanau
  • atyniadau fel sinemâu, parciau thema a sŵau

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.