BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Cymwysterau a swyddogion cymorth cyntaf yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi llunio canllawiau os oes llai o swyddogion cymorth cyntaf yn eich busnes yn sgil coronafeirws neu os nad ydych chi’n gallu cael yr hyfforddiant cymorth cyntaf sydd ei angen arnoch chi er mwyn parhau i gydymffurfio â’r gyfraith, mae rhai pethau y gallwch chi eu gwneud, gan gynnwys:

  • Sicrhau digon o swyddogion cymorth cyntaf - os oes llai o bobl yn dod i’ch gweithle efallai y bydd yn dal yn ddiogel i weithredu gyda llai o swyddogion cymorth cyntaf. Gallech chi hefyd roi’r gorau i weithgareddau risg uwch
  • Rhannu swyddogion cymorth cyntaf gyda busnes arall – gallech rannu swyddogion cymorth cyntaf busnes arall, ond gofalwch fod ganddynt y wybodaeth, profiad ac argaeledd i fodloni anghenion cymorth cyntaf eich busnes

Os oes gennych chi dystysgrif cymorth cyntaf sy’n dod i ben ar neu ar ôl 16 Mawrth 2020 ac os nad oes modd i chi gael mynediad at hyfforddiant ailgymhwyso yn sgil coronafeirws, efallai y byddwch yn gymwys am estyniad 3 mis.

Mae hyn yn gymwys i:

  • Meddygon Alltraeth (OM)
  • Cymorth Cyntaf Alltraeth (OFA)
  • Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (FAW)
  • Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith (EFAW)

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.