BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Cynnig cymorth coronafeirws gan eich busnes

Os gall eich busnes helpu gyda’r ymateb i goronafeirws, gallwch ddefnyddio gwasanaeth cymorth gan fusnesau Llywodraeth y DU i helpu.

Gofynnir rhai cwestiynau i chi am y math o gymorth y gallwch ei roi ac yna bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl os oes angen eich cymorth.

Mae’r cymorth sydd ei angen yn cynnwys pethau fel:

  • cyfarpar profion meddygol
  • dylunio cyfarpar meddygol
  • cyfarpar diogelu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd, fel masgiau, gynau a hylif diheintio
  • ystafelloedd mewn gwestai
  • trafnidiaeth a logisteg, ar gyfer symud nwyddau neu bobl
  • cyfarpar gweithgynhyrchu
  • gofod warws neu swyddfa, at ddefnydd meddygol neu storio
  • arbenigedd neu gymorth gyda TG, gweithgynhyrchu, adeiladu, rheoli prosiect, caffael neu beirianneg
  • gofal cymdeithasol neu ofal plant

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.