BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: diweddariad CThEM – gohirio taliadau TAW

Fel rhan o gefnogaeth Llywodraeth y DU i fusnesau yn ystod COVID-19, rhoddodd CThEM yr opsiwn i fusnesau ohirio eu taliadau TAW os nad oeddent yn gallu talu ar amser, heb orfod talu llog ynghlwm wrth daliadau hwyr neu gosbau. Gellir gohirio talu TAW sy’n ddyledus rhwng 20 Mawrth a 30 Mehefin 2020 tan 31 Mawrth 2021.

Rhaid i chi barhau i ffeilio’ch ffurflen TAW mewn pryd, hyd yn oed os byddwch yn gohirio’r taliad.

Daw’r opsiwn i ohirio talu TAW i ben ar 30 Mehefin 2020. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r enillion TAW gyda dyddiad taliad dyledus ar ôl 30 Mehefin gael eu talu’n llawn ac ar amser.

Os nad ydych wedi gohirio unrhyw daliadau TAW, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau pellach. Os ydych wedi gohirio talu eich TAW ac fel arfer yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol, dylech ei adfer yn awr.

Dylech wneud hyn o leiaf dri diwrnod gwaith cyn cyflwyno eich ffurflen TAW er mwyn i CThEM dderbyn taliad.

Cofiwch, dylai unrhyw daliadau TAW a ohiriwyd gennych yn ystod y cyfnod hwn gael eu talu’n llawn ar 31 Mawrth 2021 neu cyn hynny. Os dymunwch, gallwch wneud taliadau ad hoc neu daliadau ychwanegol gyda’ch ffurflenni TAW dilynol i leihau’r swm sy’n ddyledus.

Os na allwch dalu’r TAW sy’n ddyledus a bod angen amser ychwanegol arnoch i dalu, cysylltwch â CThEM cyn y dyddiad y mae’r taliad yn dod yn ddyledus.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV‌‌.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.