Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol wedi cyhoeddi 24 Mawrth 2020 a’r dyddiau wedi hynny, yn ddyddiau tarfu.
‘Diwrnod tarfu’ yw diwrnod lle nad yw hi’n bosibl cyflawni busnes arferol yn y Swyddfa Eiddo Deallusol. Bydd y Swyddfa yn adolygu’r sefyllfa eto ar 22 Mehefin 2020.
Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o ddyddiadau cau ar gyfer:
- patentau
- tystysgrifau diogelwch atodol
- nodau masnach
- cynlluniau
a cheisiadau ar gyfer yr hawliau hyn, sy’n disgyn ar ddiwrnod tarfu, yn cael eu hymestyn.
Er mwyn helpu deiliaid hawliau, busnesau a gweithwyr eiddo deallusol proffesiynol i gynllunio ymlaen, bydd y Swyddfa Eiddo Deallusol yn rhoi rhybudd o 2 wythnos o leiaf cyn dod â’r cyfnod diwrnodau tarfu i ben.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.