Oni bai bod angen addasiadau i amodau gwaith am resymau sy’n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch neu feichiogrwydd ar weithiwr beichiog, dylech eu trin yr un fath ag unrhyw weithiwr arall.
Mae canllawiau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnig cyngor syml ar y pethau y dylai ac na ddylai cyflogwyr eu gwneud er mwyn gofalu nad ydyn nhw’n gwahaniaethu yn erbyn y rhai sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae tudalennau gwe’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi eu diweddaru ac maen nhw’n egluro sut y dylai cyflogwyr reoli iechyd a diogelwch mamau newydd a gweithwyr beichiog.
Mae cyngor ar wahân ar gyfer y mamau newydd a’r gweithwyr beichiog eu hunain hefyd a chanllawiau penodol ar ddiogelu gweithwyr beichiog yn ystod y pandemig ac amddiffyn mamau newydd a mamau beichiog yn y gwaith.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.