BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Gweithwyr ar ffyrlo i dderbyn hawl absenoldeb rhiant lawn

Bydd gan weithwyr ar ffyrlo sy’n bwriadu cymryd absenoldeb rhiant neu fabwysiadu â thâl hawl i dâl yn seiliedig ar eu henillion arferol yn hytrach na’r gyfradd ffyrlo.

Mae hyn yn golygu:

  • bydd tâl ar gyfer gweithwyr ar ffyrlo sy’n cymryd absenoldeb am resymau teuluol yn cael ei gyfrifo ar sail enillion arferol yn hytrach na thâl ffyrlo
  • bydd enillion llawn yn gymwys i Dâl Mamolaeth, Tâl Tadolaeth, Tâl Rhiant a Rennir, Tâl Profedigaeth i Rieni a Thâl Mabwysiadu.
  • nid yw gweithwyr sydd ar fin cymryd absenoldeb am resymau teuluol yn cael eu cosbi drwy fod ar ffyrlo

Bydd yr offeryn statudol a gyflwynwyd gerbron y Senedd ar 24 Ebrill 2020 yn sicrhau y bydd gweithwyr y mae eu cyfnod o dâl am resymau teuluol yn dechrau ar neu ar ôl 25 Ebrill 2020 yn cael eu hasesu ar eu tâl llawn arferol.

Bydd y newidiadau yn sicrhau na fydd y rhai sy’n bwriadu cymryd amser i ffwrdd yn gweld gostyngiad yn eu tâl yn sgil cael eu rhoi ar ffyrlo oherwydd effeithiau COVID-19.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.