BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: gwirio pa dreuliau sy’n drethadwy os yw eich gweithiwr yn gweithio gartref oherwydd coronafeirws

Mae CThEM wedi paratoi canllawiau i’ch helpu chi i ddarganfod pa offer, gwasanaethau neu gyflenwadau sy’n drethadwy os yw eich gweithwyr yn gweithio gartref oherwydd coronafeirws.

Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • band eang
  • gliniaduron, tabledi, cyfrifiaduron, a chyflenwadau swyddfa
  • ad-dalu treuliau am offer swyddfa mae eich gweithiwr wedi prynu
  • treuliau ychwanegol fel trydan, gwres neu fand eang
  • benthyciadau gan gyflogwr
  • llety dros dro
  • gweithwyr yn defnyddio eu cerbydau eu hunain ar gyfer busnes

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau ar y Coronafeirws Busnes Cymru i gael gwybodaeth i’ch busnes ar ddelio â’r Coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.