BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Hawlio Tâl Salwch Statudol a dalwyd i weithwyr yn sgil coronafeirws yn ôl

Mae CThEM wedi cyhoeddi canllawiau ar-lein newydd sy’n cynnwys gwybodaeth am bwy all ddefnyddio’r cynllun a’r cofnodion sy’n rhaid i gyflogwyr eu cadw.

Bydd Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Coronafeirws yn ad-dalu cyflogwyr y gyfradd Tâl Salwch Statudol bresennol y maent yn ei thalu i gyn-weithwyr neu weithwyr presennol am gyfnodau salwch yn dechrau ar neu ar ôl 13 Mawrth 2020.

Os ydych chi’n gyflogwr sy’n talu mwy na’r gyfradd bresennol o Dâl Salwch Statudol, dim ond swm y gyfradd bresennol y gallwch ei hawlio.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

 Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau ar y Coronafeirws Busnes Cymru i gael gwybodaeth i’ch busnes ar ddelio â’r Coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.