BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Newidiadau dros dro i ofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol (CPC) Gyrwyr

Newidiadau dros dro i ganiatáu i yrwyr bysiau a lorïau na all gwblhau hyfforddiant CPC Gyrwyr gorfodol i barhau i yrru.

Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o yrwyr lorïau a bysiau gwblhau 35 awr o hyfforddiant cyfnodol bob 5 mlynedd i gadw eu cerdyn CPC Gyrwyr (a elwir yn ‘gerdyn cymhwyster gyrwyr’ neu ‘DQC’ o bryd i’w gilydd).

Yn ystod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19), gallai fod yn anodd i yrwyr gyflawni’r hyfforddiant gofynnol.

Felly, mae’r Adran Drafnidiaeth wedi rhoi newidiadau dros dro ar waith o ran gofynion cymwysterau gyrwyr proffesiynol.

Mae hyn yn golygu y gall gyrwyr y mae eu cerdyn CPC Gyrwyr yn dod i ben yn y cyfnod rhwng 1 Mawrth 2020 a 30 Medi 2020 ddal ati i yrru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

I gael cyngor a gwybodaeth am y Coronafeirws ar gyfer eich busnes, ewch i dudalennau cyngor am y Coronafeirws Busnes Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.