BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: perygl cynyddol o dwyll a seiberdroseddu yn erbyn elusennau

Mae twyllwyr yn manteisio ar ledaeniad coronafeirws (COVID-19) er mwyn twyllo a chyflawni seiberdroseddau. Mae’r heddlu wedi nodi cynnydd mewn sgamiau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi rhybudd i helpu elusennau i leihau’r risg o ddioddef twyll a seiberymosodiadau o’r fath.

Gallai pob elusen, ond yn enwedig y rhai sy’n darparu gwasanaethau ac yn cefnogi cymunedau lleol yn ystod yr argyfwng hwn, gael eu targedu gan dwyllwyr.

Twyll caffael

Mae sawl ffordd y gall elusennau gael eu twyllo. Mae rhai sgamiau yn ymwneud â gwerthu cyfarpar diogelu personol (PPE) hollbwysig, fel masgiau wyneb a menig, ar-lein.

Twyllwyr fu rhai o’r gwerthwyr hyn. Ar ôl i’r taliad gael ei wneud, does dim nwyddau’n cael eu dosbarthu neu dydy’r cynhyrchion ddim yn bodloni’r safonau gofynnol.

Gofal piau hi os ydych chi’n prynu ar ran eich elusen gan gwmni neu berson nad ydych chi’n gyfarwydd ag ef.

Trafodwch gyda chyd-ymddiriedolwyr, cydweithwyr neu wirfoddolwyr os nad ydych chi’n siŵr. Darllenwch ganllawiau Action Fraud am siopa’n ddiogel.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.