BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Profi, Olrhain, Diogelu – pecyn cymorth ar gyfer cyflogwyr gweithwyr hanfodol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Profi, Olrhain, Diogelu er mwyn atal lledaeniad yr haint, olrhain y feirws a diogelu ein cymunedau.

Mae profi gweithwyr hanfodol yn allweddol i lwyddiant y dull hwn o weithredu ac i barhad busnes er mwyn galluogi gweithwyr hanfodol i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflymach ac yn fwy diogel.

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu asedau i’ch helpu i gyfleu’r neges hon i’ch gweithwyr hanfodol.

Yn y pecyn cymorth hwn fe welwch:

  • posteri y gellir eu hargraffu a rhai digidol
  • adnoddau cymdeithasol
  • baneri digidol
  • copi enghreifftiol
  • fideo esboniadol
  • banc o ddelweddau

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.