BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19 – Profion yn y gweithle Gweminarau am ddim

Mae cynnal profion COVID-19 cyflym yn rheolaidd yn rhan hanfodol o’r camau y gellir eu cymryd i reoli risgiau er mwyn cadw eich staff, cwsmeriaid a’ch busnes yn ddiogel.

Nid yw bron i 1 ym mhob 3 o bobl sydd â’r coronafeirws yn dangos unrhyw symptomau, ac felly mae’n bwysig bod pobl yn cael profion rheolaidd er mwyn helpu i atal y feirws rhag lledaenu. Mae profion cyflym ddwywaith yr wythnos ar gael i bobl na allant weithio o gartref, a gall busnesau sydd â 10 neu fwy o weithwyr gael profion COVID-19 cyflym am ddim drwy ymuno â rhaglen profion yn y gweithle Llywodraeth Cymru.

Mae'r gweminarau'n digwydd ar:

  • 28 Gorffennaf 2021, 3pm i 4pm
  • 29 Gorffennaf 2021, 1pm i 2pm

I ddarganfod mwy, cofrestrwch i fynychu ar un o'r dyddiadau uchod trwy e-bostio Covid19.CommunityTesting@gov.wales 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.